Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 4:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Meibion Israel, gwrandewch air yr Arglwydd: canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o Dduw, yn y wlad.

2. Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.

3. Am hynny y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.

4. Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â'r offeiriad.

5. Am hynny ti a syrthi y dydd, a'r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.

6. Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a'th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.

7. Fel yr amlhasant, felly y pechasant i'm herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.

8. Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.

9. A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.

10. Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 4