Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 11:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i'r ddinas.

10. Ar ôl yr Arglwydd yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o'r gorllewin a ddychrynant.

11. Dychrynant fel aderyn o'r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a'u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr Arglwydd.

12. Effraim a'm hamgylchynodd â chelwydd, a thÅ· Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda'r saint.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 11