Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:7-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a'th frathant, ac oni ddeffry y rhai a'th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt?

8. Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a'th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.

9. Gwae a elwo elw drwg i'w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg!

10. Cymeraist gyngor gwarthus i'th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid.

11. Oherwydd y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed.

12. Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd!

13. Wele, onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?

14. Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y môr.

15. Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt!

16. Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr Arglwydd atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.

17. Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.

18. Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr ei cherfio; i'r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion?

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2