Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y'm cerydder.

2. A'r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a'i darlleno.

3. Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o'r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.

4. Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.

5. A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd.

6. Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a'r neb a lwytho arno ei hun y clai tew!

7. Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a'th frathant, ac oni ddeffry y rhai a'th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt?

8. Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a'th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.

9. Gwae a elwo elw drwg i'w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg!

10. Cymeraist gyngor gwarthus i'th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid.

11. Oherwydd y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed.

12. Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd!

13. Wele, onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?

14. Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y môr.

15. Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt!

16. Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr Arglwydd atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.

17. Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.

18. Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr ei cherfio; i'r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion?

19. Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o'i fewn.

20. Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.