13. Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a'r ddaear.
14. A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl.
15. A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd.
16. A'r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
17. A Duw a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
18. A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o'r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan.
19. Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o'r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
20. A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
21. Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.
22. A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.
23. A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.
24. A Noa a ddeffrôdd o'i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
25. Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i'w frodyr fydd.
26. Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27. Duw a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.