7. Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
8. Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai'r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.
9. Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i'r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd hi, ac a'i derbyniodd hi ato i'r arch.
10. Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o'r arch.
11. A'r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaear.
12. Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
13. Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
14. Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, y ddaear a sychasai.
15. A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd,
16. Dos allan o'r arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi.
17. Pob peth byw a'r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
18. A Noa a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.
19. Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r arch.