Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 7:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noa, Dos di, a'th holl dŷ i'r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.

2. O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a'i fenyw; a dau o'r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a'i fenyw:

3. O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.

4. Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a'r a wneuthum i.

5. A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo.

6. Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu'r dyfroedd dilyw ar y ddaear.

7. A Noa a aeth i mewn, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i'r arch, rhag y dwfr dilyw.

8. O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o'r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,

9. Yr aeth i mewn at Noa i'r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai Duw i Noa.

10. Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.

11. Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o'r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri'r nefoedd a agorwyd.

12. A'r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.

13. O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i'r arch;

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 7