Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 48:14-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a'i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

15. Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

16. Yr angel yr hwn a'm gwaredodd i oddi wrth bob drwg, a fendithio'r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

17. Pan welodd Joseff osod o'i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i'w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.

18. Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma'r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.

19. A'i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd; ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a'i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 48