9. A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.
10. Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.
11. A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.
12. A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.
13. A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.
14. Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.
15. Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf‐anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas,
16. Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.
17. A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.
18. Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau.
19. Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.
20. Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.
21. A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.
22. A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.
23. A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam.
24. A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad.
25. A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana.
26. Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.