19. Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.
20. Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.
21. A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.
22. A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.
23. A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam.
24. A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad.
25. A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana.
26. Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
27. Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac Acan.
28. Dyma feibion Disan; Us ac Aran.
29. Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana,
30. Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.
31. Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel.
32. A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
33. A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef.
34. Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.
35. A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.
36. Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef.