1. A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom.
2. Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;
3. Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.
4. Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.
5. Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.
6. Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a'i feibion, a'i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a'i anifeiliaid, a'i holl ysgrubliaid, a'i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i'r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.
7. Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.
8. Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.
9. A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.