20. A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
21. Felly yr anrheg a aeth trosodd o'i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll.
22. Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a'i ddwy lawforwyn, a'i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc.
23. Ac a'u cymerth hwynt, ac a'u trosglwyddodd trwy'r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
24. A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi'r wawr.
25. A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef.