Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 32:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jacob a gerddodd i'w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu ag ef.

2. A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.

3. A Jacob a anfonodd genhadau o'i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:

4. Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.

5. Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i'm harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

6. A'r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i'th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef.

7. Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, a'r eidionau, a'r camelod, yn ddwy fintai;

8. Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.

9. A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i'th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!

10. Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost â'th was: oblegid â'm ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.

11. Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a'm taro, a'r fam gyda'r plant.

12. A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a'th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

13. Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o'r hyn a ddaeth i'w law ef y cymerth efe anrheg i'w frawd Esau;

14. Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,

15. Deg ar hugain o gamelod blithion a'u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion.

16. Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o'r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a'i gilydd.

17. Ac efe a orchmynnodd i'r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a'th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o'th flaen di?

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 32