11. A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?
12. Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwyteais.
13. A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A'r wraig a ddywedodd, Y sarff a'm twyllodd, a bwyta a wneuthum.
14. A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes.
15. Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
16. Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a'th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
17. Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o'th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes.
18. Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwytei di.
19. Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i'r ddaear; oblegid ohoni y'th gymerwyd: canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli.
20. A'r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.