Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 3:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o'r ardd?

2. A'r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta:

3. Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw.

4. A'r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.

5. Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.

6. A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a'i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o'i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i'w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.

7. A'u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.

8. A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a'i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ymysg prennau yr ardd.

9. A'r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 3