7. Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a'm cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o'th flaen di, a thi a gymeri wraig i'm mab oddi yno.
8. Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.
9. A'r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
10. A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.
11. Ac efe a wnaeth i'r camelod orwedd o'r tu allan i'r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.
12. Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â'm meistr Abraham.
13. Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:
14. A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i'th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â'm meistr.
15. A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a'i hystên ar ei hysgwydd.
16. A'r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny.