Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a'm cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o'th flaen di, a thi a gymeri wraig i'm mab oddi yno.