1. Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a'r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim.
2. A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a'r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd:
3. A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymerech wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg:
4. Ond i'm gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i'm mab Isaac.
5. A'r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i'r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i'r tir y daethost allan ohono?
6. A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
7. Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a'm cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o'th flaen di, a thi a gymeri wraig i'm mab oddi yno.
8. Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.
9. A'r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
10. A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.
11. Ac efe a wnaeth i'r camelod orwedd o'r tu allan i'r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.
12. Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â'm meistr Abraham.
13. Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: