1. Felly y gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt.
2. Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
3. A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i'w wneuthur.
4. Dyma genedlaethau y nefoedd a'r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd,
5. A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio'r ddaear.
6. Ond tarth a esgynnodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.
7. A'r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a'r dyn a aeth yn enaid byw.
8. Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du'r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
9. A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaear.
10. Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
11. Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur: