6. Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a'i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.
7. Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a'th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i'w hetifeddu.
8. Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?
9. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen.
10. Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a'u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.
11. A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a'u tarfai hwynt.
12. A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.
13. Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a'u gwasanaethant, a hwythau a'u cystuddiant bedwar can mlynedd.
14. A'r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
15. A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
16. Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.