3. Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw'r môr heli.
4. Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a'r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.
5. A'r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a'r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn AsterothâCarnaim, a'r Susiaid yn Ham, a'r Emiaid yn Safe-Ciriathaim,
6. A'r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.