Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 10:9-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd.

10. A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar.

11. O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala,

12. A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr.

13. Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim,

14. Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o'r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.

15. Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth,

16. A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,

17. A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,

18. A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.

19. Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa.

20. Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.

21. I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf.

22. Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 10