Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 1:21-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A Duw a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.

22. A Duw a'u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear,

23. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pumed dydd.

24. Duw hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a'r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.

25. A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a'r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.

26. Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

27. Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.

28. Duw hefyd a'u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear.

29. A Duw a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.

30. Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.

31. A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a'r bore a fu, y chweched dydd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 1