10. A'r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a Duw a welodd mai da oedd.
11. A Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.
12. A'r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.
13. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y trydydd dydd.
14. Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
15. A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.
16. A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu'r dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu'r nos: a'r sêr hefyd a wnaeth efe.
17. Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear,
18. Ac i lywodraethu'r dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd.
19. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pedwerydd dydd.
20. Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.