Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 2:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi.

2. A'r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a'i cuddiodd ef dri mis.

3. A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon.

4. A'i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.

5. A merch Pharo a ddaeth i waered i'r afon i ymolchi; (a'i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu'r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i'w gyrchu ef.

6. Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu'r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.

7. Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o'r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti?

8. A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A'r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen.

9. A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A'r wraig a gymerodd y bachgen, ac a'i magodd.

10. Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a'i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o'r dwfr y tynnais ef.

11. A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr.

12. Ac efe a edrychodd yma ac acw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Eifftiad, ac a'i cuddiodd yn y tywod.

13. Ac efe a aeth allan yr ail ddydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y trewi dy gyfaill?

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 2