Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 19:4-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y'ch dygais ataf fi fy hun.

5. Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear.

6. A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma'r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7. A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo.

8. A'r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.

9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo'r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r Arglwydd.

10. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad,

11. A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

12. A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i'r mynydd, neu gyffwrdd â'i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw.

13. Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano'r utgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd.

14. A Moses a ddisgynnodd o'r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16. A'r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17. A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre'r mynydd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 19