Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 15:4-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Efe a daflodd gerbydau Pharo a'i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.

5. Y dyfnderau a'u toesant hwy; disgynasant i'r gwaelod fel carreg.

6. Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a'th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn.

7. Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'u hysodd hwynt fel sofl.

8. Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr.

9. Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail: caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a'u difetha hwynt.

10. Ti a chwythaist â'th wynt; y môr a'u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

11. Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

12. Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt.

13. Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd.

14. Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina.

15. Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.

16. Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a enillaist ti trwodd.

17. Ti a'u dygi hwynt i mewn, ac a'u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anheddle i ti; y cysegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylo.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 15