Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 15:22-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

23. A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara.

24. A'r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?

25. Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a'i bwriodd i'r dyfroedd, a'r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,

26. Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i'w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o'r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.

27. A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 15