Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 14:23-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A'r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a'i gerbydau, a'r farchogion, i ganol y môr.

24. Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid.

25. Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.

26. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo'r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27. A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i'w nerth; a'r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a'r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr.

28. A'r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i'r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un.

29. Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 14