Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 14:17-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion.

18. A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw'r Arglwydd, pan y'm gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19. Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o'u hôl hwynt; a'r golofn niwl a aeth ymaith o'u tu blaen hwynt, ac a safodd o'u hôl hwynt.

20. Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.

21. A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a'r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.

22. A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o'r tu deau, ac o'r tu aswy.

23. A'r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a'i gerbydau, a'r farchogion, i ganol y môr.

24. Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid.

25. Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.

26. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo'r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27. A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i'w nerth; a'r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a'r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr.

28. A'r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i'r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un.

29. Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.

30. Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr.

31. A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid: a'r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i'r Arglwydd, ac i'w was ef Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 14