Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 14:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr, o flaen Baal‐seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr.

3. Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt.

4. A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y'm gogoneddir ar Pharo, a'i holl fyddin; a'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.

5. A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a'i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o'n gwasanaethu?

6. Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef.

7. A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt.

8. A'r Arglwydd a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.

9. A'r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a'i wŷr meirch, a'i fyddin, ac a'u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal‐seffon.

10. A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.

11. A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o'r Aifft?

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 14