1. Felly yn y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, pan nesaodd gair y brenin a'i orchymyn i'w cwblhau; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt, (ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu, canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion;)
2. Yr Iddewon a ymgynullasant yn eu dinasoedd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, i estyn llaw yn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt: ac ni safodd neb yn eu hwynebau; canys eu harswyd a syrthiasai ar yr holl bobloedd.
3. A holl dywysogion y taleithiau, a'r pendefigion, a'r dugiaid, a'r rhai oedd yn gwneuthur y gwaith oedd eiddo y brenin, oedd yn cynorthwyo'r Iddewon: canys arswyd Mordecai a syrthiasai arnynt hwy.
4. Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ y brenin, a'i glod ef oedd yn myned trwy yr holl daleithiau: oherwydd y gŵr hwn Mordecai oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu.
5. Felly yr Iddewon a drawsant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf, a lladdedigaeth, a distryw; a gwnaethant i'w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun.
6. Ac yn Susan y brenhinllys, yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant bum cant o wŷr.
7. Parsandatha hefyd, a Dalffon, ac Aspatha,
8. Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha,
9. Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Bajesatha,
10. Deng mab Haman mab Hammedatha, gwrthwynebwr yr Iddewon, a laddasant hwy: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.
11. Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhindy a ddaeth gerbron y brenin.