Hen Destament

Testament Newydd

Esther 5:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar y trydydd dydd, Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd, ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o'r tu mewn, ar gyfer tŷ y brenin: a'r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ.

2. A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef: a'r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther; ac Esther a nesaodd, ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen.

3. Yna y brenin a ddywedodd wrthi, Beth a fynni di, y frenhines Esther? a pha beth yw dy ddeisyfiad? hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a'i rhoddir i ti.

4. A dywedodd Esther, O rhynga bodd i'r brenin, deled y brenin a Haman heddiw i'r wledd a wneuthum iddo.

5. A'r brenin a ddywedodd, Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther. Felly y daeth y brenin a Haman i'r wledd a wnaethai Esther.

6. A'r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin, Beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a'i cwblheir.

7. Ac Esther a atebodd, ac a ddywedodd, Fy nymuniad a'm deisyfiad yw,

8. O chefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i'r wledd a arlwywyf iddynt, ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 5