Yna llancesau Esther a'i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A'r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt.