5. Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia.
6. Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.
7. Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a'r rhan arall o'u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.
8. Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:
9. Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a'r rhan arall o'u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid,
10. A'r rhan arall o'r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a'r rhan arall tu yma i'r afon, a'r amser a'r amser.
11. Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y brenin; Dy wasanaethwyr o'r tu yma i'r afon, a'r amser a'r amser.
12. Bid hysbys i'r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a'r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau.
13. Yn awr bydded hysbys i'r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd.
14. Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i'r brenin,
15. Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.
16. Yr ydym yn hysbysu i'r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a'r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o'r tu yma i'r afon.
17. Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a'r rhan arall o'u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o'r tu hwnt i'r afon, Tangnefedd, a'r amser a'r amser.
18. Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.
19. A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel.