Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau‐cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a'n dug ni i fyny yma.