12. Bid hysbys i'r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a'r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau.
13. Yn awr bydded hysbys i'r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd.
14. Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i'r brenin,
15. Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.
16. Yr ydym yn hysbysu i'r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a'r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o'r tu yma i'r afon.
17. Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a'r rhan arall o'u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o'r tu hwnt i'r afon, Tangnefedd, a'r amser a'r amser.
18. Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.
19. A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel.
20. A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o'r tu hwnt i'r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
21. Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i'r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.
22. A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?
23. Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a'u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.
24. Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.