Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 61:6-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Chwithau a elwir yn offeiriaid i'r Arglwydd: Gweinidogion ein Duw ni, meddir wrthych; golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch.

7. Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt.

8. Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwm, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol.

9. Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a'u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a'u gwelant a'u hadwaenant, mai hwynt‐hwy yw yr had a fendithiodd yr Arglwydd.

10. Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd, fy enaid a orfoledda yn fy Nuw: canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â'i thlysau.

11. Canys megis y gwna y ddaear i'w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i'w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd Ior i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 61