Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd, fy enaid a orfoledda yn fy Nuw: canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â'i thlysau.