12. Canys y genedl a'r deyrnas ni'th wasanaetho di, a ddifethir; a'r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.
13. Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.
14. A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a'r rhai oll a'th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a'th alwant yn Ddinas yr Arglwydd, yn Seion Sanct Israel.
15. Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i'r holl genedlaethau.
16. Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a'th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.
17. Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a'th drethwyr yn gyfiawn.
18. Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
19. Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a'th Dduw yn ogoniant i ti.