4. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Megis y rhua hen lew a'r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef.
5. Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn Arglwydd y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub.
6. Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho.
7. Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.
8. A'r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid eiddo dyn gwael, a'i difa ef: ac efe a ffy rhag y cleddyf, a'i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth.
9. Ac efe a â i'w graig rhag ofn; a'i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr Arglwydd, yr hwn y mae ei dân yn Seion, a'i ffwrn yn Jerwsalem.