Gwae y rhai a ddisgynnant i'r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd.