Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 17:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi.

2. Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a'u dychryno.

3. A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd Arglwydd y lluoedd.

4. Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha.

5. Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi â'i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.

6. Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel.

7. Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a'i lygaid a edrychant ar Sanct Israel:

8. Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na'r llwyni, na'r delwau.

9. Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a'r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd‐dra.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 17