Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 9:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun:

4. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar dalcennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd‐dra oll a wneir yn ei chanol hi.

5. Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch.

6. Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a'r forwyn, y plant hefyd, a'r gwragedd; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo'r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y tŷ.

7. Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.

8. A bu, a hwy yn lladd, a'm gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O Arglwydd Dduw, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 9