Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 46:7-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac efe a ddarpara effa gyda'r bustach, ac effa gyda'r hwrdd, yn fwyd‐offrwm; a chyda'r ŵyn fel y cyrhaeddo ei law ef, a hin o olew gyda phob effa.

8. A phan ddelo y tywysog i mewn, ar hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hyd y ffordd honno yr â allan.

9. A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a â allan i ffordd porth y deau; a'r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.

10. A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr â yntau allan.

11. Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r ŵyn, a hin o olew gyda'r effa.

12. A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r Arglwydd, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.

13. Oen blwydd perffaith‐gwbl hefyd a ddarperi yn boethoffrwm i'r Arglwydd beunydd: o fore i fore y darperi ef.

14. Darperi hefyd yn fwyd‐offrwm gydag ef o fore i fore, chweched ran effa, a thrydedd ran hin o olew, i gymysgu y peilliaid, yn fwyd‐offrwm i'r Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol byth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 46