4. Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.
5. Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel.
6. A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod: pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti.
7. A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a'th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.
8. Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.
9. Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.
10. A'th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef.
11. Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser.
12. Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a'i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn, yn eu gŵydd hwynt.
13. A dywedodd yr Arglwydd, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.
14. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o'm hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i'm safn gig ffiaidd.
15. Yntau a ddywedodd wrthyf, Wele, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn, ac â hwynt y gwnei dy fara.