Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel.