Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 4:2-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o'i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.

3. Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a'r ddinas; a chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.

4. Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.

5. Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel.

6. A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod: pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti.

7. A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a'th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.

8. Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 4