Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o'r cleddyf a'i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.

5. Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid.

6. Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a'r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o'r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.

7. Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi.

8. Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef.

9. Ond os rhybuddi di yr annuwiol o'i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o'i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid.

10. Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dyn, Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw ein hanwireddau a'n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw?

11. Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o'r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw?

12. Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.

13. Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw.

14. A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder;

15. Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw:

16. Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33