Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:14-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder;

15. Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw:

16. Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.

17. A meibion dy bobl a ddywedant, Nid yw union ffordd yr Arglwydd: eithr eu ffordd hwynt nid yw union.

18. Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, efe a fydd marw ynddynt.

19. A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb, a gwneuthur barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd efe byw.

20. Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr Arglwydd. Barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21. Ac yn y degfed mis o'r ddeuddegfed flwyddyn o'n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o'r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas.

22. A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach.

23. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

24. Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.

25. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd â'r gwaed, ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir?

26. Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaethoch ffieidd‐dra, halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog; ac a feddiennwch chwi y tir?

27. Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a'r hwn sydd ar wyneb y maes, i'r bwystfil y rhoddaf ef i'w fwyta; a'r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o'r haint.

28. Canys gwnaf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith; a balchder ei nerth ef a baid, ac anrheithir mynyddoedd Israel, heb gyniweirydd ynddynt.

29. A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith, am eu holl ffieidd‐dra a wnaethant.

30. Tithau fab dyn, meibion dy bobl sydd yn siarad i'th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tai, ac yn dywedyd y naill wrth y llall, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33